Strategaeth a chynllun cyflawni 2021-2

Helo, Sam Hall ydw i, a chefais fy mhenodi’n ddiweddar yn Brif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Diben y strategaeth hon yw diffinio a chyfleu ein dull gweithredu digidol ar gyfer darparu gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae’r pandemig Covid-19 wedi arwain at newid aruthrol yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau. Mae agweddau pobl wedi newid. Nid yw llawer o bobl yn gweld rheidrwydd mwyach i fynd i siop, talu am bethau ag arian parod neu hyd yn oed fynd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb o fewn eu sefydliadau. Erbyn hyn mae dinasyddion yn disgwyl y gallant ddefnyddio unrhyw wasanaeth drwy glicio ar ddyfais gartref. Sut felly mae awdurdodau lleol, y sefydliadau hynny sy’n darparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru, yn cwrdd â’r galw cynyddol hwn gan ein dinasyddion? Dyma ble gall fy nhîm i helpu.

Bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru’n hyrwyddo gwasanaethau awdurdodau lleol, yn cefnogi a gweithredu darpariaeth ddigidol ar gyfer y gwasanaethau hynny, ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu huchelgeisiau.

Mae digidol yn rhywbeth creiddiol i ddarparu holl wasanaethau llywodraeth leol (ac nid mwyach yn rhywbeth sy’n ychwanegu at y ddarpariaeth). 

Mae gan awdurdodau lleol Cymru hanes rhyfeddol o ddatrys problemau drwy gydweithio ac mae hynny o fydd mawr i’r bobl sy’n byw yng Nghymru, yn gweithio yma ac yn ymweld â ni. Bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru’n cefnogi’r cydweithio drwy ddarparu cefnogaeth ddigidol broffesiynol gyda swyddogion ac arweinwyr mewn awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth lwyddiannus a chynaliadwy. 

Fel Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol yng Nghymru byddaf yn gweithio gyda Phrif Weithredwyr, uwch-swyddogion ac arweinwyr gwleidyddol i feithrin ymddiriedaeth a chysondeb mewn timau gwasanaeth a chreu awyrgylch sy’n rhoi rhyddid i swyddogion fod yn flaengar heb unrhyw beryglon. Wrth gwrs, bydd angen mwy na hyn i sefydlu proffesiynoldeb digidol ledled Cymru, ond wrth i’n tîm weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol ar lefel ymarferwyr byddant yn gwneud cyfraniad hollbwysig at feithrin yr ymddiriedaeth a rhannu’r hyn a ddysgir ledled Cymru. Ein nod yw hyrwyddo newid ac arloesi ar lefelau uwch, sydd yn ei dro’n creu gweledigaeth gref a chefnogaeth drylwyr i weithwyr yn y rheng flaen.

Cynllun mawr tîm llywodraeth leol Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf yw creu gwasanaethau ardderchog i ddinasyddion. Bydd pob gwasanaeth a ddylunnir gyda fy nhîm i yn amrywiol a chynhwysol, gan sicrhau fod pob dinesydd yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys.

Hoffwn gefnogi dyheadau’r awdurdodau lleol. Bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru’n datblygu templed ar gyfer gwasanaethau fforddiadwy, addasadwy a chynaliadwy sy’n seiliedig yn llwyr ar anghenion y bobl hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Bydd hyn yn golygu canolbwyntio ar y cwsmeriaid a chysylltu â dinasyddion gan fanteisio i’r eithaf ar ddatblygiadau ym maes roboteg, dysgu peirianyddol a dylunio gwasanaethau.

Mae awdurdodau lleol yn lleoedd gwych i weithio. Bydd gwaith tîm digidol llywodraeth leol Cymru’n cefnogi’r uchelgais o wneud awdurdodau lleol yn gyflogwyr o ddewis i’r bobl fwyaf galluog mewn gwasanaethau digidol, data a thechnoleg.

Nodir ar y tudalennau nesaf yr hyn y bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru’n canolbwyntio arno.

Diolch yn fawr.

Ar gyfer pwy mae'r strategaeth hon?

Mae gwella gwasanaethau digidol mewn llywodraeth leol o fudd i bawb. Dinasyddion, busnesau ac ymwelwyr. 

Yng Nghymru mae gennym:

  • 22 o Awdurdodau Lleol
  • 3.1 miliwn o Ddinasyddion
  • 1 o bob 5 o bobl yn byw ag anabledd
  • 238,200 o fusnesau gweithredol
  • Mwy na miliwn o dwristiaid 
  • 28% o bobl yn medru siarad, ysgrifennu neu ddeall Cymraeg

Mae’r strategaeth hon yn cyflwyno blaenoriaethau tîm digidol llywodraeth leol Cymru ar gyfer 2021-2023. Cedwir pobl mewn cof wrth gyflawni pob un o’r blaenoriaethau hyn, er mwyn sicrhau bod ein gwaith bob amser yn hygyrch a llwyr gynhwysol. 

Sut rydym yn gweithredu

Ariennir ein tîm gan Lywodraeth Cymru ac mae’n falch o fod yn rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. 

Yr Ecosystem Ddigidol yng Nghymru

Rydym yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a GIG Cymru wrth ddarparu gwasanaethau digidol i bobl Cymru.

  • Bydd y Tîm Digidol ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r 22 o Awdurdodau Lleol. 
  • Bydd Tîm Digidol Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar Wasanaethau Digidol Llywodraeth Cymru. 
  • Bydd y Tîm Iechyd Digidol yn cefnogi'r holl ddatblygiad digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 
  • Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn canolbwyntio ar y sector cyhoeddus yng Nghymru wrth adnabod cyfleoedd inni oll gydweithio er budd pawb, a meysydd lle gellir datblygu sgiliau a gallu. 

Mae’r arweinyddiaeth ddigidol ar draws Cymru yn rhannu un nod: gwella gwasanaethau cyhoeddus digidol ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, yn gweithio yma ac yn ymweld â ni. 

Egwyddorion Arweiniol

Bod yn barod am y dyfodol

I greu gwasanaethau digidol cynaliadwy a chadarn mae’n rhaid iddynt fod yn hyblyg a bod modd eu haddasu yn ôl gofynion ac anghenion y dyfodol. Bydd popeth a wna tîm digidol llywodraeth leol Cymru, felly, yn seiliedig ar sicrhau fod gwasanaethau’n groesawgar i newidiadau, gwelliannau a diwygiadau. Mae’n rhaid inni sicrhau y gallwn fanteisio ar arloesi digidol sydd heb ddigwydd eto.

Cynhwysol

Mae’n dipyn o gamp creu rhywbeth “i bawb”. Er mwyn creu gwasanaethau digidol cynhwysol mae’n rhaid i’r timau cyflawni ystyried pob unigolyn ar bob cam o ddatblygu’r gwasanaeth, ac mae’n rhaid i hynny barhau ar ôl i bobl ddechrau defnyddio’r gwasanaethau. Mae yno wastad ffyrdd newydd o wella gwasanaethau i rywun, a bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru bob amser yn agored, chwilfrydig a rhagweithiol wrth sicrhau bod gwasanaethau llywodraeth leol yn hygyrch i bawb.

Cyfrifoldeb

Bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru’n gweithredu’n gyfrifol a bydd hefyd yn atebol, gan sicrhau y bodlonir lles pennaf y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn dod â’r gwerth mwyaf i bobl Cymru byddwn yn seilio pob penderfyniad ar ymchwil a thystiolaeth. 

Cynaliadwy

Bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru yn gweithio â chyrff llywodraeth leol i rannu’r cyfrifoldeb am ôl troed amgylcheddol ein gwasanaethau. Bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru’n onest am y gwasanaethau mae’n eu darparu ac yn awyddus i fod yn atebol wrth asesu ein heffaith ar y byd ffisegol. Byddwn yn dal i ymdrechu i wneud gwasanaethau’n fwy cynaliadwy.

Ymddiriedaeth

Bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru bob amser yn gweithio’n agored er mwyn rhannu ein gwaith a’r hyn a ddysgwn. Byddwn yn anelu at y safonau uchaf posib er mwyn sicrhau ein bod yn ennill a chadw ymddiriedaeth y bobl rydym yn ffodus i weithio â hwy a’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Sut aethom ati i ddatblygu ein strategaeth

Datblygwyd y strategaeth hon gan ystyried Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru a strategaethau digidol yr awdurdodau lleol. Adolygodd tîm digidol llywodraeth leol Cymru’r strategaethau hyn gan adnabod y prif themâu i ganolbwyntio arnynt.

Mae’r strategaeth hon yn ymdrin â’r blaenoriaethau a bennwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru a’r gwaith y bydd y tîm digidol llywodraeth leol yn ei wneud i gefnogi a chynorthwyo’r sector ehangach er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau hynny. Fe wnawn hyn drwy gynnig cefnogaeth, arweiniad, hyfforddiant, cyfathrebu, prosiectau, cydweithio ac arweinyddiaeth. 

Unwaith i Gymru

Mae tîm digidol llywodraeth leol Cymru’n gweld cyfle i greu gwasanaethau digidol drwy gydweithio, rhannu gallu, galluogrwydd a gwersi a ddysgir. Mae’r strategaeth hon yn cyfleu’r uchelgais i gydgrynhoi darpariaeth gwasanaethau fel bod pawb yn cyflawni arferion gorau a bod llai o ddyblygu gwaith ymysg awdurdodau lleol yng Nghymru.

Drwy gydweithio a chydgrynhoi darpariaeth gwasanaethau, mae ‘Unwaith i Gymru’ yn rhoi cyfle i gynyddu gallu’r holl dimau cyflawni digidol i wella ansawdd cyffredinol y gwasanaethau i bobl sy’n byw yng Nghymru, yn gweithio yma ac yn ymweld â ni. 

Mae’r dull ‘Unwaith i Gymru’ yn seiliedig ar uchelgais i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson ymhob cwr o’r wlad.

Fel hyn bydd dinasyddion ac ymwelwyr yn derbyn gwasanaethau o’r un ansawdd ac yn medru rhyngweithio’n ddigidol mewn ffordd gyfarwydd a hygyrch sydd wedi’i seilio ar y sianeli cyfathrebu all-lein.

Nid yw Unwaith i Gymru’n dweud y bydd gan bob awdurdod lleol yr un dull gweithredu a’r un amrywiaeth o dechnoleg. Dyhead Unwaith i Gymru yw cael un gyfres o safonau, data, egwyddorion cyffredin a fframwaith sy’n galluogi aeddfedrwydd a chydweithio. Gallai hynny gynnwys llwyfannau technolegol lle bo hynny’n briodol. 

I awdurdodau lleol, mae Unwaith i Gymru yn golygu y gall timau digidol rannu sgiliau a gallu yn y proffesiynau Digidol, Data a Thechnoleg wrth geisio goresgyn rhai o’r heriau gyda recriwtio a chanfod adnoddau y mae’r awdurdodau lleol i gyd yn eu hwynebu. Byddwn yn rhannu a datblygu arferion gorau ac yn ystyried y gwahanol raddfeydd o ddarparu gwasanaethau fel bod pob awdurdod yn cydweithio, cefnogi a darparu’r gwasanaethau gorau gyda’r swyddogion mwyaf galluog yn y wlad. Mae hyn hefyd yn golygu gweithio gyda’n gilydd i oresgyn pethau sy’n ein hatal ac yn peri rhwystredigaeth inni wrth geisio gwneud beth rydym yn ei wneud orau a darparu gwasanaethau rhagorol i’n cymunedau, a pheidio â gweld gwasanaethau digidol fel rhwystrau ynddynt eu hunain. Rydym hefyd yn defnyddio ein sgiliau a’n profiad wrth adnabod y math iawn o hyfforddiant a’i hwyluso, er mwyn hybu galluogrwydd yr awdurdodau lleol. 

I’n cyflenwyr a’r sefydliadau’r ydym yn gweithio â hwy mae’n golygu y gallant ddod i delerau un waith yng Nghymru a chael gwybodaeth bendant am y gofynion ac anghenion y defnyddwyr. O ganlyniad hynny bydd yno amgylchedd o atebolrwydd a thryloywder yn datblygu rhyngom ni a’n cyflenwyr.

I’r trydydd sector a phartneriaid ledled Cymru bydd ‘Unwaith i Gymru’ yn golygu y bydd hi’n haws gweithio gyda llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn ogystal â hynny bydd yr awdurdodau lleol yn agored ynglŷn â’r gefnogaeth a’r systemau y mae arnynt angen gweithio â hwy, a fydd yn galluogi’r trydydd sector a phartneriaid i gyflawni eu gwaith a chefnogi ein cymunedau.

Mae’r strategaeth Unwaith i Gymru’n cyfleu ein brwdfrydedd dros gael pethau’n iawn gyda’r gwasanaeth o un pen i’r llall ar gyfer pawb sy’n byw yng Nghymru, yn gweithio yma ac yn ymweld â ni, gan gynnwys dyluniad gwasanaethau ar-lein ac all-lein. Mae’n amlygu’r ffordd y dymunwn weld yr unigolyn cyfan wrth i rywun gael mynediad at un o wasanaethau’r llywodraeth, gan roi gwasanaeth iddynt fel unigolyn yn hytrach na dylunio gwasanaethau ar sail trafodion penodol. I wneud hyn mae’n rhaid bod popeth a wnawn yn bodloni’r tri o feini prawf a ganlyn: dylunio dynol-ganolog, data a galluogrwydd.

Er mwyn hybu gwelliant rydym wedi pennu’r rhain yn brif feysydd i ganolbwyntio arnynt:

  • Dylunio a gwasanaethau dynol-ganolog
  • Data
  • Dull galluogrwydd

Dylunio a gwasanaethau dynol-ganolog

Mae dylunio dynol-ganolog yn ffordd greadigol o ddatrys problemau a dyma sut fyddwn yn dylunio gwasanaethau yng Nghymru. Proses yw hon sy’n dechrau â’r bobl yr ydym yn creu’r gwasanaeth ar eu cyfer ac yn dod i ben gyda datrysiad penodol sy’n bodloni eu hanghenion.

Mae a wnelo dylunio dynol-ganolog â meithrin empathi â phobl, diffinio’r pethau sy’n eu poeni, llunio datrysiadau ar ffurf prototeip ac yn olaf, creu gwasanaeth sy’n deillio’n uniongyrchol o gyfraniad y defnyddwyr.

Ymrwymwn i greu gwasanaethau sy’n rhoi blaenoriaeth i anghenion y bobl sy’n byw yng Nghymru, yn gweithio yma ac yn ymweld â ni.

Bydd y flaenoriaeth hon yn mynd ymhellach na’r arferion digidol cydnabyddedig sy’n gysylltiedig â dylunio dynol-ganolog, gan ddefnyddio’r egwyddorion arweiniol a’r dulliau hynny fel man cychwyn. Mae a wnelo dylunio dynol-ganolog â chydnabod anghenion pobl, nid yng nghyswllt gwasanaeth unigol ond ar sail pwy ydynt fel unigolyn a beth yw eu hamgylchiadau unigryw ar unrhyw adeg benodol, a’r hyn y gall gwasanaethau ei wneud i gefnogi a chynorthwyo’r unigolyn hwnnw. 

Effaith ar ddinasyddion

Mae’n bwysig i ni fod dinasyddion yn ffyddiog fod rhywun yn gwrando arnynt. I wneud hyn byddwn yn sicrhau y gall pobl adnabod camau gweithredu ar sail eu teimladau.

Cael amrywiaeth o safbwyntiau gan y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau er mwyn ein galluogi i gynnig gwasanaeth o un pen i’r llall i bawb, heb eithrio unrhyw ddinesydd.

Yn olaf byddwn yn ystyried dinasyddion yn gwsmeriaid, er mwyn iddynt deimlo bod eu harian yn cael ei wario ar y gwasanaethau gorau posib.

Effaith ar awdurdodau lleol

Bydd ceisio safbwyntiau’r defnyddwyr yn rhoi crynswth o ymchwil i awdurdodau lleol i’r ddefnyddio wrth ddylunio’u gwasanaethau. Bydd hynny’n cynorthwyo awdurdodau lleol i lunio manylebau trylwyr fel bod y gwasanaethau’n ateb y diben o’r foment y cânt eu sefydlu.

Effaith ar gyflenwyr

Byddwn yn cyfleu ein gofynion i gyflenwyr yn effeithiol a phendant. I wneud hyn byddwn yn defnyddio a hyrwyddo achosion defnydd clir ac anghenion cymhleth a fydd yn sicrhau mai’r datrysiadau a dderbyniwn yw’r rhai gorau posib ar gyfer y sefyllfa.

Mae arnom hefyd angen bod yn dryloyw ynglŷn â’r hyn sy’n ysgogi’r gwasanaeth. Mae mabwysiadu dull dynol-ganolog yn golygu bod arnom eisiau rhoi’r gwasanaeth gorau i gwsmeriaid; ni fydd costau a ffactorau eraill gymaint o bwys â’r budd i’r defnyddiwr. Drwy gael pethau’n iawn y tro cyntaf wrth fodloni anghenion y defnyddwyr bydd llai o angen am newidiadau drud yn ddiweddarach yn y broses.

Effaith ar bartneriaid

Bydd tîm digidol llywodraeth leol Cymru’n rhannu ymchwil a chanfyddiadau â phartneriaid a’r trydydd sector. Rydym yn annog pawb i ganolbwyntio ar anghenion dinasyddion wrth ddylunio gwasanaethau, a bydd hynny’n dod â budd ychwanegol i gymunedau.

Amrywiaeth a chynhwysiad

Byddwn yn creu a datblygu gwasanaethau sy’n gweithio i bawb. Wrth gyflawni hyn byddwn yn ceisio meithrin cyswllt â chymaint o ddinasyddion â phosib. Rydym yn cydnabod na fyddwn yn cael hyn yn iawn bob amser, ond dymunwn i bobl ein herio a rhoi gwybod inni os nad yw ein gwasanaethau mor gynhwysol ac amrywiol â’r hyn rydym yn gweithio i’w gyflawni.

Data

Yn y gorffennol mae’r sector cyhoeddus wedi bod yn gasgliad o sefydliadau uchel eu gwerth yn ymdrechu i gadw’n gyfoes mewn hinsawdd wleidyddol ac economaidd oedd yn newid o hyd. Yn ddiweddar, fodd bynnag, ceir gwell dealltwriaeth o’r ffordd y gall data helpu gyda phenderfyniadau a chamau gweithredu yn y sectorau preifat a chyhoeddus, a sut y gall helpu i newid sefydliadau cyhoeddus o fod yn rhai ymatebol yn bennaf i fod yn rhai rhagweithiol. Ein huchelgais yw sicrhau ein bod yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau cyhoeddus eraill megis Data Cymru a’r GIG, a defnyddio data er budd dinasyddion, awdurdodau lleol, cyflenwyr a’r drefn ddemocrataidd yn gyffredinol.

Effaith ar ddinasyddion

Mae democratiaeth yn golygu rhoi mynediad rhwydd at ddata i ddinasyddion. Fel hyn mae gan bobl yr wybodaeth angenrheidiol i benderfynu sut mae amrywiaeth o gyrff llywodraethu’n perfformio.

Byddwn hefyd yn bwydo data i mewn i brosesau penderfynu er mwyn i ddinasyddion fedru bod yn ffyddiog bod y data maent yn eu rhannu â ni yn werthfawr a’u bod yn cael eu defnyddio i wella’r gwasanaeth a ddarperir iddynt. Fel tîm rydym yn ymrwymo i weithio’n agored a bod yn dryloyw am yr hyn rydym yn ei wneud. Hyderwn y bydd hynny’n arwain at berthynas agored sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, lle mae gan bobl rwydd hynt i’n herio a meithrin cyswllt â ni.

Effaith ar awdurdodau lleol

Bydd gwell data’n arwain at well penderfyniadau. Dymunwn i awdurdodau lleol fedru cyrchu data o ansawdd uchel wrth wneud penderfyniadau o bwys a fydd yn effeithio ar eu cymunedau. Bydd data’n galluogi awdurdodau lleol i ddadansoddi tueddiadau a bod yn rhagweithiol wrth gynllunio ymyriadau. Yn y dyfodol bydd hynny’n helpu awdurdodau lleol i fod yn fwy effeithiol a bydd ganddynt fwy o amser i greu datrysiadau. Bydd hyn oll yn helpu awdurdodau lleol i bennu eu gwariant ar sail tystiolaeth a gwybodaeth, a fydd yn arwain at dargedu ymyriadau’n well a llai o wariant ar waith adfer.

Effaith ar gyflenwyr

Bydd cael mynediad at ddata gwerth chweil yn ein helpu i ddiffinio canlyniadau mesuradwy gyda chyflenwyr a monitro eu perfformiad yn wrthrychol ar sail y rheiny. Bydd hynny’n creu perthynas sy’n seiliedig ar atebolrwydd pendant.

Effaith ar bartneriaid

Byddwn yn rhannu’r data a gesglir â phartneriaid a’r trydydd sector fel y gallwn oll gyfuno ein data a dysgu gwersi ar sail hynny. Gall hyn eu helpu i ganolbwyntio eu hymdrechion a llunio datrysiadau â’r gwerth mwyaf posib.  

Ymrwymiad i Ddinasyddion

Mae dinasyddion, gyda pheth cyfiawnhad, yn amheus ynglŷn â rhoi caniatâd i sefydliadau ddefnyddio’u data. Er mwyn meithrin hyder pobl yn hynny o beth byddwn yn gweithredu’n unol â Fframwaith Moeseg Data Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth. Mae hynny’n cynnwys:

  • Tryloywder – Gellir craffu ar ein bwriadau a’n gweithredoedd yn rhwydd.
  • Atebolrwydd – Bydd gan y cyhoedd a’i gynrychiolwyr drosolwg a rheolaeth ar ein gweithredoedd a’n penderfyniadau.
  • Tegwch – Byddwn yn parchu urddas unigolion, ddim yn gwahaniaethu, ac yn gweithredu’n unol â budd y cyhoedd.

Dull galluogrwydd 

Mae gwaith ardderchog yn digwydd bob dydd o fewn awdurdodau lleol Cymru. Mae’r bobl sy’n gyfrifol am hyn yn meddu ar amrywiaeth o sgiliau, galluoedd a nodweddion. Ein huchelgais yw clodfori’r bobl hyn a chefnogi eu sgiliau a hyfforddiant yn y byd digidol. Drwy hynny gallant ddal i wneud gwaith ardderchog, nid yn unig yn eu hardaloedd eu hunain ond hefyd drwy gefnogi a chyfrannu at wasanaethau llywodraeth leol ledled Cymru. Rydym yn cydnabod hefyd fod yno fylchau a bod angen inni wneud mwy i ddenu’r bobl orau i lenwi’r bylchau hynny drwy hyfforddiant, datblygu staff a recriwtio wedi’i dargedu.

Dymunwn ddod â phobl ynghyd i greu cysondeb mewn darpariaeth gwasanaethau a ffurfio tîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr ledled Cymru. Bydd hynny’n creu gwasanaethau mwy cyson a chydweithredol yng Nghymru ac yn rhoi gwell cefnogaeth i’r bobl sy’n eu darparu.

Drwy rannu sgiliau a brwdfrydedd pobl gallwn ymdrechu i wneud hyn Unwaith i Gymru, a sicrhau fod gennym wasanaethau gwell, mwy effeithlon ac sy’n cyrraedd mwy o’r bobl sy’n byw, gweithio ac ymweld yma.

Effaith ar ddinasyddion

Gall dinasyddion fod yn ffyddiog fod y gweithlu gorau posib yn gweithio ar eu rhan. Byddant yn gweld fod gwasanaethau’n gwella ac yn teimlo ein bod yn rhagweithiol wrth chwilio am ffyrdd o’u gwneud yn well fyth.

Effaith ar awdurdodau lleol

Bydd gan yr awdurdodau lleol y bobl fwyaf medrus yn gweithio iddynt. Byddwn yn helpu i adnabod potensial a chreu cyfleoedd ar gyfer twf o fewn y sefydliadau, gan gynnal amgylchedd sy’n rhoi blaenoriaeth i ddatblygu gyrfaoedd.

Effaith ar gyflenwyr

Ledled Cymru gallwn fod yn fwy hyderus ein bod yn llywio ein cyflenwyr i’r cyfeiriad iawn, gan y bydd gennym dîm sy’n gwybod beth sydd ei angen a phawb yn siarad yr un iaith wrth gyfleu’r gofynion. 

Effaith ar bartneriaid

Byddwn yn cefnogi partneriaid a’r trydydd sector drwy rannu gwybodaeth ac arbenigedd. Gall ein pobl ni eu cynorthwyo i helpu cymunedau drwy feithrin cyswllt a chydweithio ar brosiectau a rhaglenni gwaith gwerth chweil.

Codi ein safon a chodi proffil Llywodraeth Leol yng Nghymru

Mae technoleg a’r byd digidol yn esblygu ac addasu drwy’r amser. Er mwyn sicrhau ein bod ar flaen y gad gyda’r datblygiadau hyn byddwn yn buddsoddi’n gyson yn sgiliau a galluogrwydd ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol yng Nghymru. 

Byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgwn, arferion gorau a sgiliau er mwyn sicrhau bod yr holl wasanaethau digidol mewn llywodraeth leol yn rhai o’r ansawdd gorau. Byddwn yn creu gwasanaethau hygyrch, cynhwysol ac addasadwy ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru gan sicrhau ein bod bob amser yn rhoi anghenion y defnyddwyr yn gyntaf. 

Byddwn yn sefydlu cymunedau ymarferwyr ar y cyd â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus er mwyn dal ati i ddysgu am y dechnoleg a’r sgiliau digidol diweddaraf.

Byddwn yn cefnogi gweithgareddau recriwtio er mwyn sicrhau ein bod yn dod â’r bobl orau i mewn i lywodraeth leol yng Nghymru, a hefyd yn clodfori’r gwaith ardderchog a wnawn ar gyfer dinasyddion ledled Cymru.

Ein Dull

Ystwyth

Byddwn yn mabwysiadu dulliau Ystwyth a’r ffordd yma o feddwl. Byddwn o hyd yn dysgu gwersi ac yn addasu ac ail-lunio ein gwaith er mwyn sicrhau ei fod bob amser yn berthnasol ac yn rhoi gwerth i’r bobl y caiff ei anelu ato. Mae hyn hefyd yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar waith sydd o bwys, heb wastraffu unrhyw ymdrech ar bethau os nad oes tystiolaeth i ddangos eu bod yn gwella gwasanaethau lleol.

Canolbwyntio ar bobl

Byddwn bob amser yn cadw mewn cof ein bod yn darparu gwasanaethau a nwyddau i bobl. Felly byddwn yn creu a phrofi ein gwasanaethau gyda phobl go iawn mewn golwg, ac yn hytrach nag ystyried ein nwyddau a gwasanaethau yn ôl eu rhinweddau technegol byddwn yn canolbwyntio ar sut y gallant wella profiadau pobl o lywodraeth leol.

Cydweithio

Mae gan Gymru lawer iawn o dalent, gallu, blaengaredd, syniadau a phrofiad. Ond er mwyn inni gael gwasanaethau rhagorol ledled Cymru mae’n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda’n gilydd a rhannu. Rhannu cod, rhannu gwybodaeth, rhannu dealltwriaeth a rhannu datrysiadau. Mae ein dinasyddion, busnesau ac ymwelwyr yn haeddu’r gwasanaethau gorau, a thrwy gydweithio gallwn gyflawni hynny ledled Cymru.

Sut mae hyn yn gweithio’n ymarferol

I gloi’r strategaeth hon rydym am roi ychydig o enghreifftiau o’r gweithgareddau ymarferol a ffrydiau gwaith sydd ar y gweill gennym ar hyn o bryd a rhai eraill y byddwn yn dechrau arnynt wrth gyflawni’r strategaeth hon. 

Prosiectau Digidol

Rydym eisoes yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu amryw brosiectau. Rydym hefyd yn datblygu ôl-groniad gwaith er mwyn sicrhau ein bod yn treulio cyfran helaeth o’n hamser yn canolbwyntio ar ddatrys problemau. Byddwn yn defnyddio dulliau ystwyth ar gyfer y prosiectau hyn gan y credwn mai hyn yw’r dull mwyaf effeithiol o ddylunio gwasanaethau i bobl. Yn ogystal â hynny awn ati i hyrwyddo’r dull hwn i swyddogion yn y gweithgorau a ffurfir fel y gallant fynd â’r arferion ystwyth yn ôl a’u mabwysiadu o fewn eu hawdurdodau lleol hwythau.

Llyfrgell Batrymau

Dymunwn greu storfa ganolog ar gyfer y dyluniadau a’r gwasanaethau gorau ymysg awdurdodau lleol Cymru. Bydd hynny’n rhoi cyfle i awdurdodau godi’r dyluniadau a gwasanaethau o’r llyfrgell batrymau a’u rhoi ar waith eu hunain. Nid yn unig y bydd hyn yn arbed amser ac arian i’r awdurdodau, ond bydd hefyd yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol ar y cyd i gynnig gwasanaethau digidol cyson ardderchog i bobl yng Nghymru, ble bynnag y maent yn byw.

Cydweithio ag Arweinwyr

Rydym eisoes wedi meithrin cyswllt yn helaeth â Phrif Weithredwyr ac uwch dimau rheoli mewn awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi cwrdd ag arweinwyr gwleidyddol a gweinidogion a byddwn yn dal i wneud hynny yn y dyfodol. Gwnawn hyn am amrywiaeth o resymau. Yn gyntaf, dymunwn ddeall beth yw eu blaenoriaethau a’u heriau, a chyfuno hynny â blaenoriaethau a heriau preswylwyr wrth benderfynu sut i ymdrin â’n hôl-groniad o waith. Yn ail, er mwyn hyrwyddo cysyniadau fel dylunio dynol-ganolog fel bod arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru’n eu cymeradwyo. Yn olaf, mae’n rhoi cyfle arall inni ddadlau o blaid pwysigrwydd gwasanaethau digidol mewn awdurdodau lleol a hyrwyddo eu potensial o ran yr hyn y gellid ei gyflawni pe bai uwch-swyddogion yng Nghymru’n gwthio’r agenda yn ei blaen. 

Sgiliau a gallu

Rydym eisoes wedi trefnu nifer o sesiynau hyfforddiant i swyddogion awdurdodau lleol. Mae’r sesiynau hynny wedi cynnwys Dylunio Cynnwys, Hygyrchedd Cynnwys, Dylunio Profiadau Defnyddwyr, Dylunio Gwasanaethau a Dulliau Ystwyth a Darbodus. Sesiynau arbrofol oedd y rhain a byddwn yn asesu barn y swyddogion ynglŷn ag unrhyw fudd a gawsant ohonynt. Gan ddibynnu ar yr ymateb bwriadwn gyflwyno mwy o sesiynau hyfforddiant yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi sefydlu digwyddiadau eraill fel cyfarfodydd anffurfiol a sesiynau dangos a dweud. Mae’r cyfarfodydd anffurfiol yn gyfle i swyddogion ddod ynghyd i sgwrsio am bwnc penodol a chadw mewn cysylltiad er mwyn cydweithio yn y dyfodol. Mae Dangos a Dweud yn rhoi llwyfan i awdurdodau lleol gyflwyno gwasanaethau digidol y maent wedi’u rhoi ar waith fel bod pawb arall yn ymwybodol o’r gwaith da sy’n cael ei wneud ledled Cymru. 

Yn ogystal â hynny rydym am greu llwybr i swyddogion awdurdodau lleol ddysgu am wasanaethau digidol a dod yn ymarferwyr digidol. Fe wnawn hyn drwy gynnig cyfleoedd i bobl ymuno â’n tîm am gyfnodau penodol o amser wrth weithio ar brosiectau. Wedyn byddwn yn darparu gwybodaeth a sgiliau i’r swyddogion y gallant fynd yn ôl â hwy i’w hawdurdodau, yn y gobaith y gallant symud ymlaen i’r swydd ddigidol o’u dewis. 

Yn olaf, o ran Galluogrwydd rydym yn ymchwilio i ffyrdd y gallwn greu tîm amlddisgyblaethol canolog y gall pob awdurdod lleol elwa arno. Bydd y tîm hwn yn gweithio ar brosiectau sy’n effeithio ar awdurdodau lluosog a bydd yn dylunio gwasanaethau cynaliadwy i fynd i’r afael â’r heriau presennol. 

I gloi

Rydym wedi datblygu’r strategaeth hon ar sail llawer iawn o waith ymchwil, dysg a dealltwriaeth o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. 

  • Mae’n canolbwyntio’n bendant ar welliannau yng ngwasanaethau awdurdod lleol a fedr bara i’r dyfodol.  
  • Hwn yw’r cysylltiad rhwng nodau lefel uchel y Strategaeth Ddigidol i Gymru a chynlluniau a gweledigaeth yr awdurdodau lleol ar gyfer dinasyddion ledled y wlad.  
  • Mae’n seiliedig yn bennaf ar yr hyn yr ydym wedi dysgu yw’r tri phrif faes o angen, ac mae’r rheiny hefyd yn bwysig wrth osod y sylfeini ar gyfer datblygu digidol da a dylunio gwasanaethau effeithiol.
  • Pennwyd oes y strategaeth yn ddwy flynedd yn fwriadol, gan fod hynny’n amser maith yn oes y rhyngrwyd. Bydd arnom eisiau dychwelyd at y strategaeth yn gyson, eu hadolygu a’i hail-arfarnu fel bod y strategaeth nesaf yn ein tywys yn bendant yn bellach ar y daith.
  • Nid yw hyn yn rhywbeth i’w roi ar silff ac anghofio amdano. Byddwn yn rhoi ein prosiectau ar brawf yn unol â’r strategaeth ac yn cyfeirio ati’n gyson er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd yn y meysydd o flaenoriaeth.